Ar hyn o bryd rydym yn datblygu rhaglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer eich Croeso a'ch Cynefino!

Yn y cyfamser, gwnewch nodyn o'r dyddiadau allweddol isod, edrychwch ar neges groeso gan eich Pennaeth Ysgol, a dilynwch ni ar Instagram i gael blas ar yr holl bethau cyffrous y byddwch chi'n gallu cymryd rhan ynddynt yn ein cymuned Ysgol a'r Gyfadran.

Canolfan Rhaglenni Ymarfer Proffesiynol

Ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio LLM y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (PAC), LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol (PLP) neu LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch (LPC), nodwch fod dyddiadau'r Wythnos Croeso a'r addysgu yn wahanol i'n rhaglenni prif ffrwd. Cliciwch ar y ddolen berthnasol isod i weld manylion eich rhaglen.

Pob rhaglen arall

Ar gyfer pob rhaglen arall, cynhelir eich Wythnos Croeso ac Ymsefydlu yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 23 Medi. Bydd amserlenni'ch Wythnos Croeso ar gael ar y dudalen hon o 14 Medi 2024.

Croeso cynnes i fyfyrwyr newydd

Rwy’n falch iawn o estyn croeso cynnes iawn ichi i Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, yma ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Ysgol y Gyfraith yn gymuned academaidd lewyrchus gyda myfyrwyr yn ganolog iddi. Ein nod yw cynnig addysg gyfreithiol o'r safon uchaf, gan arfogi ein graddedigion â sgiliau a phrofiad, ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth gyfreithiol gadarn. Yn ystod eich astudiaethau gradd byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau o fewn a thu allan i'r cwricwlwm. Yn eich wythnosau cyntaf gyda ni gallwch ddisgwyl cwrdd â'r timau gwasanaeth academaidd a phroffesiynol a fydd yn eich cefnogi trwy'ch astudiaethau. Yn benodol, byddwch yn cwrdd â'ch mentor academaidd a'i rôl yw darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth wrth i chi symud ymlaen trwy'ch astudiaethau gradd. Gobeithio eich bod chi mor gyffrous â ni, wrth i ni baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at groesawu ein holl fyfyrwyr newydd i'n cymuned yn Ysgol y Gyfraith. Welwn ni chi yn yr Wythnos Groeso!

Yr Athro Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith HRC

Llun proffil o Alison Perry