Student discussing topics and Projects

LLEISIO’CH BARN

Er bod gradd yn ffactor pwysig iawn wrth sicrhau gyrfa wych, mae llawer o gwmnïau'n chwilio am lawer mwy wrth benderfynu pa raddedigion i'w cyflogi y dyddiau hyn.

Beth am wneud y mwyaf o'th amser yma yn Abertawe a chofrestru ar gyfer Panel Barn y Myfyrwyr i wella dy sgiliau a sicrhau bod dy CV yn barod ar gyfer cyflogwyr?

Mae Panel Barn y Myfyrwyr yn grŵp o fyfyrwyr o lefelau astudio, meysydd pwnc a chefndiroedd gwahanol sy'n dod at ei gilydd i drafod amrywiaeth o bynciau'n ymwneud â phrofiad y myfyrwyr yn gyffredinol.

Mae cannoedd o fyfyrwyr eisoes wedi cymryd rhan ac wedi creu argraff ar Brifysgol Abertawe drwy rannu eu meddyliau a'u syniadau.

SUT YDW I'N COFRESTRU?

Ar ôl i ti gofrestru drwy e-bostio'r Tîm Bywyd Myfyrwyr, byddwn yn cysylltu â thi drwy gydol y flwyddyn academaidd i'th wahodd i weithdai a grwpiau ffocws sydd ar ddod.

Y cyfan mae angen i ti ei wneud yw rhoi 'SOP' yn y maes pwnc ac yna dy enw, dy gyfeiriad e-bost, dy flwyddyn astudio a theitl dy gwrs yng nghorff yr e-bost.

Ar ben datblygu'th CV, magu hyder, cwrdd â ffrindiau newydd a gwella gwasanaethau'r Brifysgol, byddi di hefyd yn derbyn rhodd am ddim am dy amser! Gallai hyn fod ar ffurf hanfodion byw, bwyd, a/neu daleb Amazon.