GWEITHDREFN DDISGYBLU
Anaml y bydd angen camau disgyblu, gan fod y rhan fwyaf o Fyfyrwyr Llysgennad yn ymfalchïo'n fawr yn eu gwaith. Fodd bynnag, bydd methu glynu wrth y Côd Ymddygiad yn arwain at gychwyn y weithdrefn ganlynol.
Mae polisi tair streic ar waith. Os cewch dair streic yn ystod eich cyflogaeth, ni fydd gofyn i chi weithio fel Myfyriwr Llysgennad eto. Gellir cael streic o ganlyniad i un o'r pethau canlynol:
- Cyrraedd dros bum munud yn hwyr i'r gwaith ar fwy nag un achlysur.
- Canslo gwaith heb 48 awr o rybudd neu reswm dilys, megis salwch, argyfwng, neu ail-drefnu darlith yn annisgwyl.
- Canslo'r gwaith gyda llai na 48 awr o rybudd, a methu ffonio'r swyddfa i roi rhybudd.
- Methu cyrraedd y gwaith heb rybudd nac esboniad ymlaen llaw.
- Dod i'r gwaith yn feddw neu â phen mawr fore trannoeth.
- Iaith neu ymddygiad amhriodol (gan gynnwys ysmygu, neu yfed alcohol yn gyhoeddus) wrth wisgo eich crys-t neu wisg Myfyriwr Llysgennad.
- Derbyn adborth gwael gan aelod o staff, y cyhoedd, neu gyd-Fyfyriwr Llysgennad fwy nag unwaith.
- Defnyddio ffôn symudol yn gyson wrth weithio, y tu hwnt i'r defnydd sy'n gysylltiedig â gwaith neu ddefnydd brys y cytunwyd arno.
- Ymddangos fel eich bod yn rhoi golwg negyddol ar y Brifysgol wrth weithio, gan gynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
- Torri cyfrinachedd yn enwedig mewn perthynas â lles person ifanc.
- Camymddwyn difrifol, a all arwain at ddiswyddo ar unwaith.
- Bydd unrhyw un o'r amgylchiadau hyn neu unrhyw doriad difrifol neu gyson arall o'r côd ymddygiad yn cael ei ymchwilio'n llawn.
- Bydd Myfyrwyr Llysgennad yn cael eu gwahodd i gyfarfod unigol i drafod y mater. Cofnodir streic yn eich cofnod Myfyriwr Llysgennad. Os bydd myfyriwr yn derbyn tair streic, bydd yn cael ei ddiswyddo yn ôl disgresiwn Rheolwr y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad