Atodiad i Reoliadau Fframwaith Prifysgol Abertawe ar gyfer Graddau Doethurol ar y cyd - Prifysgol Abertawe i lywodraethu rhaglenni PhD ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes
1. Gwybodaeth gefndirol gyffredinol
Sefydlwyd Partneriaeth Strategol Grenoble - Prifysgol Abertaweyn 2012 at ddibenion cydweithio ar ymchwil ryngwladol.
2. Arholi Myfyrwyr Ymchwil
Ceir esboniad o'r broses Arholi Myfyrwyr Ymchwil yn y Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil - Prifysgol Abertawe. Mae'r arholiad llafar yn dilyn fformat y sefydliad cartref. Os cynhelir yr arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe, bydd yr eithriadau canlynol yn berthnasol:
2.1
Bydd aelodau'r Bwrdd Arholi ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio mewn partneriaeth ag Université Grenoble Alpes yn cynnwys yr unigolion canlynol:
- Cadeirydd annibynnol o Brifysgol Abertawe, sef y Deon Gweithredol neu aelod o staff athrawol sydd â phrofiad priodol ac sydd wedi'i enwebu gan y Deon Gweithredol. Mae'n ofynnol i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio'r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o'r arholwyr. Cynhelir yr arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Yn achos arholiadau llafar a gynhelir yn Grenoble, detholir un o aelodau'r bwrdd arholi (h.y. dau arholwr allanol a dau arholwr mewnol a adwaenir fel "y rheithgor") fel Cadeirydd.
- Dau arholwr allanol (un o bob partner)
- Dau arholwr mewnol (un o bob partner).
- Ni all nifer yr arholwyr mewnol (hynny yw staff Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble) fod yn fwy na nifer yr arholwyr allanol yn unol â'r gyfraith yn Ffrainc. Hefyd, mae'n rhaid cael nifer cyfartal o athrawon ag aelodau nad ydynt yn athrawon ar y panel ac mae'n rhaid i'r Cadeirydd fod yn athro. Rhaid bod o leiaf bedwar aelod ar y panel a dim mwy nag wyth aelod. Gall goruchwylwyr ddod i arsylwi ond, yn ôl gofynion y DU, ni allant fod yn aelodau o'r panel.
- Bydd pob aelod o'r bwrdd yn cymryd rhan wrth drafod a chwestiynu.
- Bydd pob aelod o'r bwrdd yn cytuno ar yr asesiad terfynol.
2.2
Mae Université Grenoble Alpes yn gofyn am adroddiad cyn yr arholiad llafar. Fel arfer, cynhelir hwn un mis cyn yr arholiad llafar ond, os cytunir i hynny, gall hwn gael ei gynnal un wythnos cyn yr arholiad llafar. Enwebir dau o'r arholwyr fel adroddwyr a byddant yn cyflwyno'r adroddiad cyn yr arholiad llafar (bydd hyn yn caniatáu i Université Grenoble Alpes gymeradwyo'r panel yn ffurfiol).
2.3
Cyfyngir ar yr amser a ganiateir ar gyfer cywiriadau i 3 mis oherwydd deddfwriaeth Ffrainc ar arholiadau llafar. Ystyrir bod ymgeiswyr doethurol yn Ffrainc yn weithwyr gyda'r hawliau cysylltiedig. Os bydd y Bwrdd Arholi yn penderfynu bod angen cywiriadau sy'n cymryd mwy na 3 mis, gellir caniatáu hyn ond bydd angen i'r myfyriwr amddiffyn ei waith o'r newydd ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir.
2.3.1
Os bydd y rheithgor yn gofyn am gywiriadau, rhaid i'r myfyriwr doethurol wneud y rhain o fewn uchafswm o 3 mis. Bydd Université Grenoble Alpes yn datgan bod y myfyriwr doethurol wedi cael ei dderbyn ar gyfer y radd ddoethurol cyn gynted ag y bydd yr amddiffyniad wedi’i gwblhau. Ar ddiwedd y cyfnod o 3 mis, caiff y traethawd ymchwil ei gyflwyno gan ei awdur i Université Grenoble a Phrifysgol Abertawe. Ni fydd angen amddiffyniad newydd wrth gyflwyno'r deipysgrif sydd wedi cael ei chywiro.
2.3.2
Caniateir cwblhau cywiriadau y mae'r rheithgor wedi gofyn amdanynt o fewn cyfnod o fwy na 3 mis. Bydd Université Grenoble Alpes yn cyfleu hyn cyn yr arholiad llafar fel gohirio'r myfyriwr doethurol ond bydd Prifysgol Abertawe'n cyfleu hyn fel cais am gywiriadau mewn cyfnod o fwy na 3 mis. Pan fydd y deipysgrif yn barod, bydd proses amddiffyn newydd yn dechrau, gan gynnwys:
- Penodi canolwyr (gall fod yr un unigolion);
- Anfon y traethawd ymchwil at y canolwyr;
- Bydd y canolwyr yn astudio'r traethawd ymchwil ac yn cynnig eu barn arno;
- Anfon y traethawd ymchwil at aelodau eraill o'r rheithgor;
- Amddiffyniad;
- Fel arfer, bydd angen amddiffyn y traethawd ymchwil o'r newydd pan fydd y deipysgrif ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno.