AR GYFER POB RHAGLEN A ADDYSGIR A PHOB RHAGLEN YMCHWIL

Gwybodaeth Bwysig 

Ni fwriedir i'r weithdrefn hon gael ei defnyddio i ystyried cwynion gan fyfyrwyr. Dylai myfyrwyr sydd am gwyno ddefnyddio Gweithdrefnau Cwynion y Brifysgol. Os yw ymgeiswyr am ofyn i farciau unigol gael eu gwirio, dylent  ddefnyddio'r weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd.

Mae’r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Arholi.

Gall myfyrwyr gyflwyno apêl academaidd yn unol â Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd y Brifysgol, yn seiliedig ar amgylchiadau iechyd neu amgylchiadau personol eithriadol eraill nad ydynt yn gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu. Nid yw apêl a gyflwynir ar sail sy'n gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu neu gymhwyso'r Rheoliadau Eithriadol yn unig yn debygol o fod yn llwyddiannus. Camau Gweithredu Diwydiannol - Prifysgol Abertawe

Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys, bod gennych reswm dros apelio, ac eich bod o fewn y terfynau amser, bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen apêl academaidd

Bydd angen cyflwyno’r Ffurflen Gais am Apêl, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cais trwy e-bostio studentcases@swansea.ac.uk. Gan fod staff yn gweithio o bell ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn ffurflenni apêl neu unrhyw ddogfennaeth/ohebiaeth drwy’r post.

Cynghorir myfyrwyr hefyd i ddarllen y ddogfen Cwestiynau Cyffredin sy’n darparu rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau allweddol ar gyfer cyflwyno apeliadau a sut y penderfynir ar yr apeliadau.

Os oes gennych gwestiynau ar y weithdrefn neu’r rheoliadau, cysylltwch â’r Tîm Achosion Myfyrwyr, a fydd yn hapus i ateb ymholiadau sydd gennych, drwy e-bost: studentcases@abertawe.ac.uk

Yn ogystal â hyn, mae Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr ar gael i gynorthwyo ac i gynghori myfyrwyr, yn gyfrinachol, ynghylch apeliadau ac mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr. Gallwch gysylltu â’r ganolfan drwy e-bost i: ‘advice’.

Dyddiadau Ystyriaethau Arbennig

Er bod gan fyfyrwyr 3 mis i gyflwyno apêl, os nad oes gennych eisoes benderfyniad ar ymgais atodol ac rydych yn aros am ganlyniad apêl ymgais atodol i'w sefyll yn ystod cyfnod asesiadau atodol mis Awst 2024, bydd angen i chi gyflwyno eich apêl i'r Gwasanaethau Addysg erbyn y dyddiadau a nodir isod. Bydd hyn yn galluogi ystyriaeth, lle bo'n bosib, cyn i'r cyfnod asesu atodol ddechrau.

Math o fyfyriwrDyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl
Myfyrwyr Israddedig - Arholiadau terfynol Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024
Ôl-raddedig a Addysgir  Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024
Israddedig nad ydynt yn eu blwyddyn olaf Dydd Llun 23 Gorffennaf 2024
MBBCh (Meddygaeth i Raddedigion) blwyddyn 4      Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024
MBBCh (Meddygaeth i Raddedigion) blynyddoedd 1-3* Dydd Mercher 7 Awst 2024

Ni fydd apeliadau a gyflwynir sy'n gofyn am ymgais atodol ar asesiad ar ôl y dyddiadau cau uchod fel arfer yn cael eu prosesu a'u hystyried mewn pryd ar gyfer y cyfnod asesu atodol sy'n dechrau ar 5 Awst 2024.

Yn ogystal, sylwer: dylai myfyrwyr nad ydynt wedi llwyddo i apelio/derbyn y canlyniad yr oeddent wedi gobeithio amdano wrth apelio, sy'n cyflwyno ceisiadau am adolygiad terfynol ac sy'n gofyn am ragor o ymgeisiau fod yn ymwybodol na chaiff ceisiadau am adolygiad terfynol (oherwydd y diffyg amser rhwng cyfarfod y Byrddau Apelio a dechrau'r cyfnod asesu atodol) eu hystyried a'u prosesu mewn pryd ar gyfer/yn ystod y cyfnod asesu atodol. Mae felly'n hynod bwysig bod myfyrwyr yn cyflwyno'r holl dystiolaeth a gwybodaeth berthnasol wrth gyflwyno apêl.

Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr MBBCh Meddygaeth i Raddedigion (blynyddoedd 1 i 3) yn unig.

Dylai myfyrwyr sy'n astudio ar y rhaglen MBBCh Meddygaeth i Raddedigion (blynyddoedd 1 i 3) sylwi mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl yw 7 Awst 2024 (MBBCh) a bydd cyfnod yr asesiadau atodol ar gyfer myfyrwyr ar y rhaglenni hynny yn dechrau ar 12 Awst 2024 (MBBCh). I sicrhau nad yw myfyrwyr ar y rhaglenni hyn sydd wedi cyflwyno apêl erbyn y dyddiad cau sef dydd Iau 7 Awst 2024 (MBBCh) ac sy'n cyflwyno cais am ail ymgais mewn asesiad(au) yn colli'r cyfle i gwblhau asesiad atodol (os yw eu hapêl yn llwyddiannus ar ôl hynny), penderfynwyd y caiff myfyrwyr sy'n astudio ar y rhaglenni hyn gyfle i gwblhau'r asesiad atodol cyn i'r apêl gael ei phrosesu. Fodd bynnag, bydd unrhyw fyfyriwr sy'n cael cynnig y cyfle hwn ac yn cwblhau'r asesiad atodol yn derbyn pob risg, oherwydd pe bai'r apêl yn aflwyddiannus wedi hynny, ni chaiff asesiad(au) y myfyriwr ei farcio/eu marcio, ac ni ddyfernir marciau i'r myfyriwr am yr asesiad(au).

Os yw myfyrwyr rhyngwladol ar y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion MBBCh y mae angen fisa arnynt i astudio yn y Brifysgol yn apelio yn erbyn penderfyniad a dynnwyd yn ôl yn cyflwyno cais am ail ymgais mewn asesiad(au), mae'n debygol na fydd ganddynt y dewis i sefyll asesiad(au) atodol cyn i'r apêl gael ei phrosesu oherwydd cyfyngiadau Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). Cynghorir myfyrwyr o'r fath felly i gysylltu â'r Ysgol Feddygaeth a Rhyngwladol@BywydCampws cyn cyflwyno apêl.

* Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr Cydymaith Meddygol (blynyddoedd 1 a 2) yn unig:

Er bod gennych 3 mis i gyflwyno apêl academaidd, mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o'r cyfle asesu nesaf sydd ar gael ar gyfer yr asesiad yr effeithir arno. Er enghraifft, os byddwch yn cyflwyno apêl academaidd am drydydd ymgais eithriadol yn y prawf cynnydd (sydd i fod i gael ei gynnal ym mis Rhagfyr 2024), mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i gyflwyno eich apêl academaidd mewn modd amserol i sicrhau y gellir ystyried eich apêl a bod penderfyniad yn cael ei gyfleu i chi o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad yr asesiad.